Nofel fer arall yng Nghyfres Copa ar gyfer yr arddegau hyn. Ynddi, mae awdur toreithiog ac enillydd Gwobr Tir na n-Og yn cyflwyno portread iasol o euogrwydd merch ifanc yn dilyn blynyddoedd trist o gamdriniaeth yn ystod plentyndod ac ieuenctid.
Children's Books (Novels and Short Stories)
Novels and Stories For Young Adults
Dwi’m yn siŵr o dan ba graig dwi ‘di bod, ond dim ond ryw flwyddyn neu ddwy yn ôl nes i ddarganfod llyfrau Gareth F. Williams am y tro cyntaf. OMB! Ers y foment honno, dwi’n cysidro fy hun yn superfan o’i waith. Ond mewn gwirionedd, alla i ddim bod yn superfan go iawn nes fy mod i wedi darllen ei lyfrau i gyd, felly dyma wneud addewid mod i am drio darllen ei holl nofelau yn ystod 2021. Challenge accepted.
So, dyma ni, mis Ionawr. A dyma gychwyn ar yr un cynta’ o’r flwyddyn – un bach gweddol hawdd i ddechrau – Anji. Llyfr byr yw hwn sy’n perthyn i gyfres Copa, sef 5 nofel fachog ar gyfer yr arddegau hŷn. (ond dwi’n meddwl basa tua bl.9 yn iawn)
Gyda llai na 100 o dudalennau a phlot oedd yn symud ar garlam, mi orffennais y nofel mewn un eisteddiad. Daliodd y broliant fy sylw’n syth, er ei fod o’n sboilar go sylweddol: “Ar ôl lladd ei mam, aeth Anji allan i’r ardd gefn am smoc.” As you do ‘llu.
Heb ddatgelu llawer mwy o’r plot na sydd wedi cael ei wneud yn barod, ar ôl lladd ei Mam, fe aiff Anji ar drip i’r Rhyl gyda’i ffrind, ac er ei bod hi’n trio mwynhau ei hun, mae cadw’r gyfrinach dywyll yn pwyso arni. Ella bod angen dipyn bach o suspension of belief yma, achos, tra mod i’n medru derbyn ei bod hi wedi cael casual smoke ar ôl lladd ei Mam (sioc, debyg) dwi ddim mor siŵr amdani’n mynd ar holidês bach i’r Rhyl yn syth wedyn. Fasa rhywun yn gwneud hynny? Erm, not sure about that one.
Ta waeth, ro’n i’n licio sut gafodd stori Ruth Ellis [y ddynes ola’ i gael ei chrogi yn y DU] ei blethu mewn i stori Anji, ac mi ddysgish i ffaith newydd – ei bod hi wedi cael ei geni yn Rhyl! Dyma lyfr y gallwch fwynhau adref neu yn yr ysgol, ac yn sicr does ‘na’m prinder o destunau trafod yn y nofel, sy’n cynnwys themâu fel euogrwydd, y gosb eithaf, dial, cenfigen, perthnasau iach/afiach a bwlio emosiynol.
Fel darllenwyr, rydym ni gyd ar ‘team Anji’ er ei bod hi ‘technically’ wedi lladd rhywun, ac fe ddown i gydymdeimlo â hi ar ôl dod i ddeall beth sydd wedi arwain at y foment yma.
Ok, felly, dydi darllen y llyfr ddim wedi newid fy mywyd, ond mi wnes i ei fwynhau. Mae’r print bras a’r paragraffau byrion yn ideal i rywun sy’n chwilio am lyfr sydyn, ond sy’n ddiddorol hefyd.
Anji. Done.
Ymlaen at Cwmwl Dros y Cwm nesa…