top of page

Yr Arth Aruthrol - David Walliams (addas. Eurig Salisbury)

Updated: Jun 4, 2020

*Scroll down for English*


Roedd bywyd yn braf... cyn iddi syrthio i gysgu!

Life was good... until she fell asleep!


Genre: llyfr lluniau, hiwmor / picture book, humour Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◉◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◉◉ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎ Dyfarniad/Rating: ★★★★☆

 

Gwrandewch ar Meilyr Sion yn dod a'r stori'n fyw!

Listen to Meilyr Sion bringing the story to life!


 

I oedolion, dwi’n meddwl fod David Walliams fel Marmite – ‘da chi unai yn hoff o’i steil, neu ‘da chi ddim! Am beth da felly, mai i blant mae o’n ‘sgwennu, ac nid i ni– dyma awdur hynod lwyddiannus sydd wedi gwerthu miliynau o gopis o’i lyfrau! Mae plant o bob oedran wrth eu boddau gyda’i waith ac mae o wedi sefydlu ei hun yn un o gewri llenyddiaeth plant – y Roald Dahl newydd medde nhw!



Mae ‘Arth’ yn hapus ei byd ym Mhegwn y Gogledd, yn bwyta pysgod ac yn torheulo drwy’r dydd. Mae bywyd yn braf nes iddi syrthio i gysgu, ac wrth ddeffro, ffeindio fod y talpyn o rew wedi torri’n rhydd ac wedi arnofio i ffwrdd! Mae hi’n ffeindio ei hun mewn gwlad ddiarth, yn bell bell o adref, ac fe ddaw ar draws gannoedd o greaduriaid sy’n debyg iawn, ond eto’n hollol wahanol! Buan iawn mae’r stori antur yn troi’n stori gariad...



Mae Tony Ross yn un o fy hoff arlunwyr, ac mae ei waith yn cyfoethogi’r stori. Mae’r ysgrifen yn cefnogi’r lluniau hefyd drwy fynd i bob siâp a chyfeiriad – cadwa hyn bethau’n ddiddorol. Hyd yn oed yn y copi dwyieithog, dwi byth yn teimlo fod ‘na ormod o ysgrifen ar y dudalen.


Fel sy’n ddisgwyliedig gan Walliams, mae cryn dipyn o hiwmor yn y stori a dwi’n siŵr y bydd darllenwyr ifanc yn morio chwerthin wrth ddarllen - yn enwedig os bydd y darllenydd yn gwneud synau i gyd fynd. Dwi’n siŵr y bydd hyd yn oed gweld dau arth mawr yn cymharu pen olau ei gilydd yn siŵr o fod yn ddoniol iawn.



Fel yr arfer mewn llyfrau llun i blant ifanc, mae ‘na batrymau sy’n cael eu hail adrodd, felly mi fydd y rhai lleiaf yn gallu ymuno gyda’r darllen drwy ddweud “O diar, o diar, o diar,” wrth i’r sefyllfa waethygu.


Efallai bydd rhai darnau’n mynd dros bennau darllenwyr ifanc iawn, ac roedd y stori i’w weld yn hirach na’r rhai arferol, felly mae’n bosib y bydd rhai plant ifanc braidd yn aflonydd erbyn y diwedd.


Mae hon yn stori dda, sy’n defnyddio hiwmor ysgafn i gyfleu negeseuon pwysig fod pawb yn wahanol, ond yr un fath yn y bôn. Mae’r llyfr yn ddathliad o debygrwydd a gwahaniaethau. Bonws yw’r ffaith fod y llyfr yn trafod (yn anuniongyrchol) mater pwysig arall ein hoes, sef cynhesu byd eang! Cyfle i gael trafodaeth yn fanna hefyd…


 

To adults, I think David Walliams is like Marmite – you either love his style or you hate it! How fortunate then, that he isn’t writing for us adults, but for the children… and they absolutely can’t get enough of him! Here is a highly successful author who has sold millions of copies. Children of all ages love his stuff and he’s cemented himself as one of the giants of children’s literature – the new Roald Dahl they say!



‘Bear' is happy up at the North Pole, eating fish and sunbathing all day. Life is good until she falls asleep, and upon waking, finds that her piece of ice has broken off and floated away! She then finds herself alone in foreign lands, far from home, and even comes across hundreds of local creatures who although are similar to her, are very different too! It’s not long before the adventure story turns into a love story…



Tony Ross is one of my favourite illustrators, and his work enriches the story. The text also supports the pictures by bending in every shape and direction – this keeps things interesting. Even in the bilingual copy, I never felt that there was too much writing on the page.


As is expected of Walliams, there’s a great deal of humour in the story and I'm sure young readers will be laughing whilst reading -especially if the reader makes sounds and silly voices to go with it. I'm sure that the sight of two big bears comparing each other’s bums will no doubt be highly amusing!



As is standard practice in picture books for young children, there are repeating patterns so even the smallest ones will be able to join in by saying "oh dear, oh dear, oh dear,” as the situation deteriorates.

Some passages may go above the heads of very young readers, and the story seemed to be a bit longer than usual. You may find some younger children will be a bit fidgety towards the end.


This is a good story, using gentle humour to convey important messages that everyone is different, but basically the same. The book is a celebration of similarities and differences. Another bonus is the fact that the book discusses (indirectly) another important issue, namely global warming! Another good opportunity to have a chat about that.

 

Gwasg/publisher: Atebol

Rhyddhawyd/released: 2018

Pris: £6.99

 

78 views0 comments

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page