top of page

Y Môr Leidr a Fi - Llio Maddocks

*Scroll down for English & comments*


Antur gyda'r môr ladron... a Nain!!

Pirate Adventure..with Gran!


Gwasg/publisher: Gomer

Cyhoeddwyd/released: 2019

Pris: £5.99

ISBN: 978-1785623073


Lefel her/challenge level:


☆ ☆ Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original ☆ ☆

 

Dyma bartneriaeth newydd ffrwythlon rhwng awdur newydd, Llio Maddocks, a’r arlunydd, Aled Roberts. Mae Y Môr Leidr a Fi yn deillio o gyfnod yr awdur ar Gwrs Ysgrifennu a Darlunio i blant yng Nghanolfan Tŷ Newydd yn 2018. Dwi’n falch o weld bod Llio wedi bod yn brysur yn rhoi pin at bapur ers hynny. Y canlyniad yw llyfr gwreiddiol Cymraeg newydd i blant ifanc.



Fel rhywun â dyfodd i fyny yng nghwmni Nain a Taid, dwi wrth fy modd gyda’r stori yma, sy’n sôn am fachgen yn mwynhau penwythnos llawn hwyl a sbri gyda’i gyfaill gorau, Nain. Ond nid Mam-gu hen ffasiwn, arferol mo hon, o na! Gredwch chi be? Mae Nain yn fôr-leidr!


Mae’r stori yn dilyn anturiaethau llawn dychymyg Nain a’i ŵyr dros y penwythnos! Dwi’n licio’r ffordd mae nain yn defnyddio rolling pin fel cleddyf! Creadigol iawn! Dwi’n siŵr na fydd o eisiau mynd yn ôl at ei rieni ar ôl cael gymaint o hwyl efo Nain. Nabod y teimlad.



Mae’r llyfr yn lliwgar dros ben gyda lluniau clir a diddorol. Grêt i rieni neu athrawon drafod y lluniau gyda’r plant. Mae’r ffaith fod y llyfr ar ffurf penillion bach doniol sy’n odli yn wych. Syniad da. Ffordd syml o ddechrau cyflwyno odli i blant ifanc drwy sôn am eiriau sy’n swnio’n debyg.


Llyfr gwych i blant ifanc gyd-ddarllen ag oedolyn.


Defnydd creadigol o rolbren!
 

This is a fruitful new partnership between writer, Llio Maddocks, and the artist, Aled Roberts. The book Y Môr Leidr and Fi is what resulted from the author's time at Tŷ Newydd Writing Centre on a writing and illustration for children course in 2018. I'm glad to see that Llio has been busy putting pen to paper since then. The outcome, a brand-new original Welsh storybook for young children.



As someone who is very close to my grandparents, I love this story. It sees the boy spending a fun-filled weekend with his close friend, Nain. This is not your average, old-fashioned grandmother, oh no! Would you believe? Nain is a pirate!


I like the way grandma uses her rolling pin as a sword! Very creative! I'm sure the young lad won't want to go back to his parents after having so much fun with Nain.


The book is very colourful with clear and interesting pictures. Great for parents or teachers to discuss the pictures with children. The fact that the book comprises of small, funny rhyming verses is great. What a good idea. It’s a simple way to start introducing rhyme to young children by talking about words that sound similar.


A great book for young children to read with an adult.

27 views0 comments

Kommentare

Mit 0 von 5 Sternen bewertet.
Noch keine Ratings

Rating hinzufügen
bottom of page