(awgrym) oed darllen: 12+
(awgrym) oed diddordeb: 12+ / OI
Disgrifiad Gwales:
'Fe wna i adeiladu castell yma i ti, i dy gadw'n ddiogel am byth.' Teyrnas beryglus yw Brycheiniog y ddegfed ganrif – mor beryglus fel bod rhaid cuddio chwaer y brenin o'r golwg. Nid yw Elwedd wedi cael gadael y castell ar y dŵr am ddeuddeng mlynedd. Ar yr ynys, mae'n ddiogel. Wrth geisio darganfod y gwir am y castell ar y dŵr, daw Elwedd i ganol brwydr am Frycheiniog gyfan.
Mae Y Castell ar y Dŵr yn stori ffuglen hanesyddol sydd wedi gosod yn Brycheiniog yn y degfed ganrif am ferch o’r enw Elwedd, chwaer y brenin sydd wedi tyfu i fyny i ffwrdd o’r byd mewn castell cafodd ei adeiladu i gadw hi’n saff. Mae Elwedd yn tyfu i fyny yn credu nad ydy hi’n cael gweld y byd tu allan gan ei fod yn rhy beryglus iddi ac mae hi’n ddigon bodlon gyda’i bywyd o fewn waliau’r castell. Mae hi’n gwybod unwaith ei fod yn ddigon saff byddai hi’n gallu symud i fyw gyda’i brawd. Roedd e’n ei hatgoffa o hynny pob tro roedd e’n ymweld ond pan mae crefftwr o’r enw Syfaddan yn symud i weithio yn y castell ac yn rhoi blas iddi ar fywyd tu allan i'w byd bach hi mae hi’n cwestiynu popeth am ei bywyd ei thŷ a’i theulu. Dewch gyda Elwedd a Syfaddan i ffeindio allan cyfrinachau mae teulu Elwedd yn trio mor galed i gadw yn gyfrinachau.
Bydde ni’n argymell Y Castell ar y Dŵr i bobl 12 neu’n henach gan bod yna rai themâu anoddach i blant ieuengach ddeall. Bydde ni hefyd yn dweud ei fod yn lyfr wedi ei anelu at bobl sy’n hoff o hanes a rhamant. Bydde ni ddim yn awgrymu e i rywun oedd ddim yn hoff o drais neu pobl yn cael ei camdrin gan bod eithaf tipyn o hynny yn y llyfr.
Gwnes i fwynhau darllen Y Castell ar y Dŵr yn fawr gan ei fod wedi fy nghadw ar ymyl fy sedd eisiau gwybod beth byddai’n digwydd nesaf. Roedd y cymeriadau i gyd yn ddiddorol a chymhleth ac doedd neb oedd yn berson hollol da neu hollol ddrwg. Roedd hefyd llawer troadau annisgwyl bydde ni byth wedi dychmygu yn dod. Roedden ni hefyd yn hoffi sut roedd e’n anodd i hoffi rhai o gymeriadau gorau’r llyfr ar ddechrau’r stori ond roedden nhw’n datblygu yn wych drwy gydol y llyfr. Roedd e hefyd yn hyfryd i weld dau gymeriad mor wahanol fel Syfaddan ac Elwedd yn dod mor agos nes ei bod yn teimlo fel nad ydynt yn gallu byw heb ei gilydd.
Mwynheais i'r llyfr yn fawr ac dwi’n awgrymu yn fawr eich bod yn ei ddarllen.
Comments