top of page

Tricsi a Dicsi - Gwyn Morgan

*Scroll down for English & comments*


Wythnos wallgo gyda'r cwpwl o Decsas!

A wacky week with the couple from Texas!


Gwasg/publisher: Dref Wen

Cyhoeddwyd/released: 2019

Pris: £4.99

ISBN: 978-1-78423-135-4


Lefel her/challenge level: ❖ ❖

Doniol, hiwmor gwrion. Wacky humour.


★ ★ Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original ★ ★

 

Mae’r llyfr yma wedi dod yn syth allan o’r 90au! Dwi’m yn deud hynny mewn ffordd negyddol, ond mae’r llyfr yn union fel y llyfrau Cymraeg oeddwn i’n eu darllen pan oeddwn yn yr ysgol gynradd. (gan yr un awdur). Efallai nad yw Gwyn Morgan wedi cyrraedd yr uchelfannau ym myd awduron Cymraeg, a debyg na fyddai llawer yn ei enwi petawn i’n gofyn iddyn nhw restru awduron Cymraeg. Un peth sy’n sicr, mae o wedi bod yn gynhyrchiol iawn dros y blynyddoedd, gan ysgrifennu hen ffefrynnau y silffoedd ysgol fel Zac yn y Pac, Dannedd Gosod Ben, Jazz, Rwba Dwba, Abracadabra a sawl un arall. Mae’r diffyg buddsoddiad mewn llyfrau Cymraeg yn ein hysgolion yn golygu fod yr hen lyfrau yma’n sicr o fod o gwmpas hyd heddiw.



Dyma lyfr newydd, sydd, fel rhan fwyaf o lyfrau Gwyn Morgan, wedi cael ei ddarlunio gan Dai Owen, sy’n ffrind da iddo. Dwi’n gallu adnabod gwaith yr arlunydd yma’n syth; mae ganddo steil unigryw sy’n cael ei alw’n Fast Reportage. Hynny ydi, tynnu brasluniau sydyn gyda beiro ac inc i gyfleu symudiadau a theimladau. Mae’r lluniau dros ben llestri yn ddoniol iawn ac yn rhan bwysig o’r stori. Mae’r darn efo pen-ôl Mam a’i blwmars yn siŵr o ennyn gwên neu chwerthiniad!


Mae’r stori braidd yn random a deud y lleiaf. Doedd gen i ddim syniad i ble’r oedd yn mynd! Mae’r stori ar ffurf dyddiadur. Dyddiadur merch yw e, sef Sharon Llywelyn, sy’n byw gartref gyda’i thad, Terry, a’i Mam, Linda. Mae chwaer ei mam, (sy’n Fodryb i Sharon) wedi symud i America ac wedi priodi dyn Americanaidd. Stereotypical American o’r taleithiau deheuol. Mae’r llyfr yn adrodd hanes yr wythnos fythgofiadwy pan ddaeth y cwpl draw i aros gyda’r teulu. Mae’r ddau yn hollol nyts a Dad druan sy’n cael y bai pan mae pethau’n mynd o’i le!



Tro cyntaf i mi ddarllen tud.8 roeddwn i wedi drysu’n llwyr, ond mi wnâi drio esbonio… Owa Rollercoaster yw’r dyn o Decsas, UDA a fo ydi ‘Dicsi’. Ei wraig yw Bopa Rollercoaster, sef ‘Tricsi.’



Dim ots faint o weithiau mae Mam yn trio cynllunio diwrnodau difyr di-stŵr i’r cwpl yn ystod eu gwyliau, mae rhywbeth yn siŵr o fynd o’i le – gyda chanlyniadau hileriys!


Mae’r llyfr yn wirion bost. Os ‘da chi’m yn hoffi pethau wacky felna, nid hwn yw’r llyfr i chi! Darllen ysgafn, addas ar gyfer Bl.4 ymlaen faswn i’n deud.


 

This book has come straight out of the 90s! I'm not saying that in a bad way, but the book is exactly like the sort of books that I was reading when I was in Primary school. (by the same author). Gwyn Morgan may not have reached the upper echelons of the Welsh book world, and many probably wouldn’t name him if I asked them to list Welsh-language writers. However, one thing is certain, he has been quietly productive over the years, working in the background. He wrote old school shelf favourites such as Zac yn y Pac, Danedd Gosod Ben, Jazz, Rwba Dwba, Abracadabra and many more…The lack of investment in new Welsh books in our schools means that these older books are sure to be still floating around.


This is a new book, which, like most of Gwyn Morgan's books, has been illustrated by Chester-based artist, Dai Owen with whom the author is good friends. I can recognize this artist’s work straight away; he has an unique style called Fast reportage. This is a quick sketch method with pen and ink that conveys movements and feelings ‘in the moment’. The over the top drawings are funny and an important part of the story. The bit with Mum's bottom and bloomers on show is sure to get a laugh!



The story is a bit random to say the least. I had no idea where it was going most of the time! It’s set in the form of a diary. It belongs to Sharon Llywelyn, who lives at home with her father, Terry, and her mother, Linda. Her mother's sister, (who is Sharon’s Aunt, of course) has moved to America and married an American man. An absolutely stereotypical Southern States American! The book tells the story of the unforgettable week when the couple came over to stay with the family. The two are completely nuts and Sharon’s poor father gets the blame when things go wrong!


When I first read page.8 I was completely confused, but I will try to explain... Owa Rollercoaster is the man from Texas, USA and he is ' Dicsi '. His wife is Bopa Rollercoaster, a.k.a.' Tricsi. '


No matter how many times mum tries to plan fun outings for the couple during their holidays, something is sure to go wrong – with hilarious results!

The book is silly, no doubt about it. If you don’t like wacky things like this, then this is not the book for you! It’s light-hearted reading, pure and simple. Suitable for Yrs.4 and above I’d say.

24 views0 comments
bottom of page