top of page

Sw Sara Mai - Casia Wiliam

*Scroll down for English*


Mae anifeiliaid yn lot haws na phobl...

Animals are so much easier than people...


Genre: #ffuglen #amrwyiaeth #hiliaeth / #fiction #diversity #racism

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎

Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎

Dyfarniad/Rating: ★★★★☆

 

TRWYN MEWN LLYFR GYDA MAGW JÊN: ADOLYGIAD DISGYBL BL.5

Cyflwynir drwy ganiatâd Y Lolfa


 

ADOLYGIAD MORGAN DAFYDD


Beth sy’n digwydd yn y llyfr? (Y Plot)


Mae Sara Mai yn byw gyda’i Mam, ei Thad, a’i brawd Seb - ond nid teulu cyffredin mohonynt! Maen nhw’n rhedeg sw ac yn byw ar y safle sy’n rhoi cyfleoedd arbennig ac unigryw i Sara Mai - faint o bobl sy’n gallu dweud fod nhw’n rhannu eu cartref gyda chymaint o anifeiliaid anhygoel?

Mae Sara Mai yn dallt anifeiliaid yn iawn, ac mae'r sw yn well na phobl - mae gormod o reolau dryslyd anweledig gyda phobl! Mae hi’n cael trafferth ‘ffitio i mewn’ yn yr ysgol, ac mae merch newydd ym mlwyddyn 5, Leila, yn gwneud bywyd yn anodd iddi. Mae hi’n gwneud ei gorau i lywio Cors Fochno’r (minefield) buarth a’r dosbarth, ond tydi hi methu deall pam fod rhai pobl mor gas. Beth fydd yn digwydd tybed pan mae ei hathro’n ei gosod mewn grŵp gweithio gyda’r bwli?!

Wrth i’r nofel fynd yn ei flaen, mae’r sw yn cael newyddion ofnadwy fod ‘dyn busnes’ dirgel eisiau prynu’r tir er mwyn ei ddatblygu a throi'r sw yn ganolfan siopa! O na!! Bydd rhaid i Sara Mai wneud rhywbeth reit handi os ydi hi am achub y sw! Darllenwch y stori er mwyn ffeindio allan os yw hi’n llwyddiannus a beth yw ei chynllun arbennig?!


Pryd cafodd y stori ei osod?

Mae’r stori wedi cael ei osod yn Ne Cymru yn y presennol yn y byd go iawn. (hynny ydi – nid mewn byd hudol)

Oedd ‘na gymeriadau da?


Mae Sara Mai, y prif gymeriad, yn un hoffus iawn ac yn unigryw iawn gan ei bod hi’n helpu i redeg sw. Er bod hyn yn sefyllfa anarferol, bydd darllenwyr gallu uniaethu gyda hi wrth iddi gael trafferthion yn yr ysgol -dwi’n siŵr fod nifer ohonom ni wedi cael amser caled yn yr ysgol rhyw bryd neu'i gilydd. Rydym ni’n gweld y byd drwy ei llygaid hi, ac mae ei harsylwadau ar ba mor ddryslyd mae pobl eraill yn ymddwyn yn rhywbeth fydd pawb yn gallu deall. Mi wnes i fwynhau gweld Sara Mai yn dod allan o’i chragen ac yn tyfu mewn hyder wrth i’r nofel fynd yn ei flaen ac mae hi’n gwneud ffrindiau newydd. Roedd hi’n dod drosodd fel cymeriad penderfynol iawn oedd yn barod i wneud unrhyw beth i achub y sw- y peth pwysicaf yn ei bywyd! Mae’r ffaith fod hi’n gallu maddau i’r bwli ar ddiwedd y nofel hefyd yn dangos aeddfedrwydd yn ei chymeriad.

Mae’r ffaith fod yr anifeiliaid yn cael eu henwi hefyd yn gwneud iddyn nhw deimlo fel cymeriadau go iawn hefyd.

Ar gyfer pa oedran mae’r llyfr?

Mae’r llyfr ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2 (sef rhwng 7-11 oed). Tydi’r iaith ddim yn rhy anodd yn y llyfr, ond mae o’n llyfr reit sylweddol. Mae’r llyfr yn addas ar gyfer plant sydd wedi dysgu i ddarllen yn annibynnol. Wedi dweud hyn, efallai byddai darllenwyr mwy ifanc o fewn yr ystod oedran yn buddio o gyd-ddarllen y llyfr gyda rhiant neu ddarllenwr mwy profiadol.

Dwi'n hoff iawn o'r tudalennau tywylll

Beth oedd yn dda am y llyfr?

Mae’r awdur yn llwyddo i drafod y pwnc o fod yn wahanol yn naturiol ac yn ei blethu â’r stori yn llwyddiannus iawn. Efallai fod rhai pobl yn teimlo braidd yn nerfus/ansicr wrth drafod lliw croen, ond mae Casia yn agor y drws ar gyfer trafodaeth drwy siarad yn blaen. Yng ngeiriau Sara Mai ei hun, “Ia, felly, mae Mam a Dad yn edrych yn wahanol iawn i’w gilydd.” Mae hi’n sôn am ei lliw croen hi ei hun fel bod yn “frown tywyll, rhywle rhwng lliw croen Mam a lliw croen Dad.” Mae hi’n cydnabod fod pawb arall yn yr ysgol yn wyn – sefyllfa reit gyffredin yng nghefn gwlad Cymru. Dwi’n falch fod y prif gymeriad yn codi proffil y gymuned BAME [Black, Asian and Minority Ethnic] mewn llyfrau Cymraeg – rhywbeth sy’n eithaf prin. O ganlyniad felly, mae’r stori yn adlewyrchu Cymru fodern, amlddiwylliannol yn well.

Gall y stori gael ei ddefnyddio fel sbardun ar gyfer trafodaeth ar ymddygiad hiliol. Er mai dim ond awgrym o fwriad sy’n cael ei gynnwys yn y llyfr, mae’n amlwg fod sylwadau Leila at Sara Mai yn cyfeirio at liw ei chroen, ac o ganlyniad yn gwbl annerbyniol.

Roeddwn yn hoffi’r ffaith fod Sara Mai yn trafod y ‘rheolau anweledig’ sydd yn ein cymdeithas. Mae nifer o blant (ac oedolion) yn cael trafferth deall rhai o’r rheolau dryslyd anffurfiol yma. Gwnaeth hyn i mi feddwl am gonfensiynau cymdeithasol a sylweddoli pa mor anodd ydi o yn y bôn. Er enghraifft - cadw cyswllt llygaid wrth siarad gyda rhywun - rhaid edrych arnynt, ond byddai syllu am rhy hir yn teimlo’n chwithig - rhain ydi’r rheolau “llwyd” sydd yn ein bywydau dydd i ddydd.

YR ANIFEILIAID WRTH GWRS!!! Dwi’m yn meddwl mod i wedi dod ar draws neb sy’n casáu anifeiliaid! Mae stori sy’n cynnwys anifeiliaid yn siŵr o blesio’r gynulleidfa darged. Mae o’n byrlymu gyda ffeithiau diddorol am anifeiliaid a dwi’n siŵr fydd pawb yn gorffen y llyfr wedi dysgu dipyn o bethau newydd!


Fysa rhywbeth yn gallu cael ei wella/newid?

​Efallai fod y prif ddigwyddiad (sef clywed fod y sw o dan fygythiad) wedi dod braidd yn hwyr yn y nofel (dim tan bennod 8) ond wedi dweud hynny, roedd hyn yn rhoi amser i sôn am yr anifeiliaid ac i gyflwyno’r cymeriadau eraill a thrafod perthynas Sara Mai gyda’r disgyblion eraill. Mae’r profiadau o weithio fel grŵp yn rhywbeth fydd llawer o blant yn gyfarwydd ag.

A oeddet wedi rhagweld sut fyddai’r stori’n gorffen?

​Roedd gen i deimlad y byddai Sara Mai yn llwyddo i achub y dydd yn y pen draw, gyda chymorth ei ffrindiau newydd! Mi fyddai’r stori yn gallu gorffen yn fanna yn daclus iawn, ond dwi’n siŵr fod ‘na le am ragor o anturiaethau - mwy gyda’r anifeiliaid tro nesaf efallai.

Darn ar gyfer y rhieni (ac athrawon)!


Dwi’n meddwl fod y llyfr yn wych, ac yn un oedd wir ei angen. Dyma lyfr cyfoes, sy’n cymryd cam yn y cyfeiriad cywir er mwyn adlewyrchu Cymru amrywiol a chynwysedig heddiw yn llawer gwell. Mae’n holl bwysig fod plant yn gallu ‘gweld eu hunain’ mewn llenyddiaeth ac mae hwn yn llyfr perthnasol iawn. Gall weithio fel stori i’w fwynhau wrth ddarllen er pleser, ond dwi’n meddwl fod iddo fuddion addysgiadol hefyd, fel sbardun drafodaeth neu fel nofel sydd wrth wraidd uned o waith. Pan oeddwn yn dysgu, roeddwn yn dewis un nofel ac yn cynllunio tasgau traws cwricwlaidd yn deillio o’r stori.


Mae digon o ddeunydd a all ddeillio o’r llyfr yma:

Syniadau ar gyfer y dosbarth:

· Dadl ddosbarth: Ydi Sw’s yn bethau da neu ddrwg?

· Gwaith ymchwil, yna ysgrifennu adroddiad – anifeiliaid y byd

· Trip i’r sw (go iawn neu rhithiol)

· Rhifedd – rhedeg sw (elw a cholled)

· Diweddglo arall/stori newydd – dial Michael Hughes....

· Cyflwyniadau llafar – anifeiliaid – gwaith grŵp

· Gwaith ar fwlio/hiliaeth/dathlu amrywiaeth

Ffaith ddiddorol! Oeddech chi’n gwybod....?!


Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y stori i Casia pan oedd hi’n fardd plant Cymru ac yn ymweld ag ysgolion ledled y wlad. Meddai:

“Gwnes i gyfarfod â merch fach mewn ysgol oedd yn annwyl tu hwnt ac yn gwirioni ar anifeiliaid, ac mi ddywedodd wrtha i – “Mae Mam yn dweud bod gen i gysylltiad arbennig gydag anifeiliaid.” A dyma fi’n meddwl – rydw i am dy roi di mewn llyfr! Rydw i wir yn gobeithio y bydd plant yn hoffi’r llyfr – er mwyn i Sara Mai gael sawl antur arall!”

 

What happens in the book? (The Plot)


Sara Mai lives with her mother, father and big brother Seb - but this is no ordinary family! They run a zoo and live on the site - which gives Sara Mai loads of special and unique opportunities -how many people can say they share their home with so many amazing animals?

Sara Mai understands animals, in fact, she prefers them to people -there are too many invisible, unwritten, confusing rules with human beings! She struggles to 'fit in' at school, and a new girl in Year 5, Leila, makes life difficult for her. She does her best to steer the minefield that is school life, but she just can’t understand why some people are so nasty. What will be the result when the class teacher decides to put her in a group with her bully?

As the novel progresses, the zoo gets some bad news that a mysterious businessman wants to buy the land in order to develop it into a shopping centre! Oh no!! Sara Mai will have to do something quite handy if she wants to save the zoo! Read the story to find out what her plan is an if she is successful or not…

When was the story set?

The story takes place in South Wales in the present day in the real world. (That is – not in a magical fantasy land)

Were there good characters?