*Scroll down for English*
Oed darllen/reading age: 4/5+
Oed diddordeb/interest age: 2+
*Cymraeg Gwreiddiol ~ Welsh Original*
Dyma Nos Da, Tanwen a Twm, sef llyfr newydd gneud-chi-wenu gan y power couple ym mynd llyfrau plant Cymraeg, Luned a Huw Aaron.
Hwn di’r llyfr cynta iddyn nhw’i gyhoeddi gyda’i gilydd, ac yn amlwg maen nhw wedi cael blwyddyn brysur iawn. Cafodd y ddau eu henwebu ar gyfer rhestr fer gwobrau Tir na n-Og eleni, ac mae un o lyfrau Huw wedi ymddangos ar restr fer Llyfr y Flwyddyn hefyd. Ar ben hyn oll, maen nhw wedi sefydlu gwasg NEWYDD SBON o’r enw Llyfrau Broga - a dwi’n excited IAWN i weld be ddaw o hyn… https://broga.cymru/croeso
Reit, dwi’n mwydro. Nôl at y llyfr…
Dwi’n siŵr y bydd rhieni plant bach ar hyd a lled Cymru’n gallu uniaethu’n llwyr gyda’r stori yma! Os oes ’na ddau beth yn sicr yn y byd ’ma, un yw'r ffaith y bydd plant isio pi-pi yn syth ar ôl cychwyn siwrne yn y car, a’r llall yw y gwnawn nhw UNRHYW BETH i osgoi mynd i’r cae sgwâr (gwely mewn Gog speak).
Stori fach ddoniol a thyner sydd yma am deulu bach o deigrod, sy’n sôn am y drefn nosweithiol a’r her ddyddiol o drio cael plantos bach i’w gwelyau. Er cymaint mae Mami a Dadi’n trio, does ’na ddim awydd cysgu ar yr hen deigrod bach ac maen nhw’n llawn bîns. Ma’ plant reit glyfar amser mynd i gwely, ac mi allwch chi garantîo y gwnawn nhw drio pob math o distraction techniques i ohirio rhoi pen ar y gobennydd.
Mae’r lluniau’n fawr ac yn drawiadol ac er bod nhw’n amlwg yn steil Huw, maen nhw’n wahanol i’w stwff arferol o hefyd. Mi sylwch hefyd fod y testun ei hun yn reit fyr ac yn syml iawn - felly aidial ar gyfer cyd-ddarllen gyda’r rhai bach fel stori sydyn. Mi fedran nhw helpu i wneud rhai o’r synau er enghraifft.
Dwi’n licio fod ’na dipyn bach o hiwmor yn rhan o’r stori, y math o hiwmor syml ond clyfar ’na lle mae’r plant yn mwynhau, ond mae o’n siŵr o wneud i’r oedolion wenu hefyd, wrth iddyn nhw feddwl “yup, I know that feeling” wrth ddarllen (ac mi wnes i chwerthin yn uchel pan welais i beth oedd gan dad ar droed y soffa!).
O’r diwedd, mae gan Mami a Dadi teigr gyfle i ymlacio a rhoi eu traed i fyny ar y soffa, gan wybod fod y plant yn ddistaw ac yn hapus braf dan y duvet…. yeah, right!
Fel sydd i’w weld gyda nifer o lyfrau ‘dan 7’ heddiw, mae ’na gyfieithiad Saesneg ar gael yn y cefn i hwyluso pethau i rieni di-Gymraeg neu’r rheiny sy’n dysgu felly mae hynny’n bonus.
Dwi’n siŵr y bydd ‘na fwy o brosiectau ar y cyd i ddod gan Luned ac Aaron. Wel, da ni’n gobeithio y bydd ‘na beth bynnag.
Nos Da, Tanwen a Twm [goodnight, Tanwen and Twm] is an amusing new children’s picture book by the power couple of Welsh children's books, Luned and Huw Aaron.
This is the first one they’ve done together, and the two of them have had quite a year. Both were shortlisted for the Tir na n-Og Awards 2021 and one of Huw’s books also made it to the Children & Young People’s Book of the year shortlist. On top of all this, they've set up a BRAND-NEW publishing press called Llyfrau Broga and we’re all very excited to see what they’ve got in store for us.
Right, I'm going off track. Back to the book.
I'm sure that parents of little children across Wales will be able to identify with this story! If there are two things certain is this world, one is that children will want a wee almost immediately after starting a car journey, and the other is that they’ll do ANYTHING to avoid going to bed!
This is a funny, cute little story about a small family of tigers, taking a light-hearted look at the challenge of their night-time routine trying to get the kiddos to bed. Despite their efforts, the children aren’t really interested in going to sleep and are full of beans if anything. Children are, at bed time, very clever and they’ll employ all sorts of distraction techniques to delay that ‘lights out’ moment.
The pictures are large and striking and although they are obviously Huw's style, they’re somewhat different to his usual stuff. You’ll also notice that the text itself is quite short and simple – ideal for co-reading with the little ones for a quick story. They can help out with the reading by making some of the sounds.
I like that there's a little bit of humour to this story, the kind of simple yet clever humour that the children will like but the adults will also raise a smile as they get that "yup, I know that feeling" whilst reading. (I had to laugh when I saw what Daddy tiger had by the sofa!).
Finally, after much effort, Mami and Dadi get the chance to put their feet up and relax, safe in the knowledge that their little ones are safely tucked away under the duvet.... yeah, right!
As with a number of new books for ‘under 7’s’, and English translation is available in the back to help parents who are new to reading in Welsh or are learning themselves. I think that’s a great idea.
Can’t wait for Luned and Aaron’s next collaboration. Something tells me I won’t have to wait long…
Cyhoeddwr/publisher: Gwasg Carreg Gwalch
Cyhoeddwyd/released: 2021
Pris: £6.95
ISBN:
AM YR AWDURON (oddi ar Gwales)
Mae Huw Aaron yn gartwnydd, arlunydd ac awdur o brofiad, ac wedi cyfrannu cartwnau i gannoedd o lyfrau a chylchgronnau yn Nghymru a thu hwnt. Cafodd Ble Mae Boc ac Y Ddinas Uchel eu henwebu ar restr fer gwobr Tir na n'Og yn 2019 a 2020, ac enillodd Yr Horwth categori plant a phobl ifanc gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020.
Sefydlodd Huw y comic poblogaidd, Mellten yn 2016, a chafodd 11,000 o gopïau o'i lyfr comic Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru yn 2019. Yn ystod cyfnod clo 2020, sefydlodd Huw y sianel You Tube 'Criw Celf', gyda'i fideos wedi eu gwylio dros 100,000 o weithiau.
Mae Huw hefyd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen 'Ceri Greu' ar S4C, yn dysgu ac ysbrydoli plant i arlunio a chreu celf eu hunain. huw@huwaaron.com Mae Luned Aaron yn gyn enillydd gwobr Tir na n-Og yn 2017 am ei chyfrol ABC Byd Natur, mae ei chyfres boblogaidd Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch) yn cyfuno dulliau collage a pheintio lliwgar, gan gyflwyno plant Cymru i rai o ryfeddodau’r byd o’u cwmpas. Mae ei gŵr, Huw Aaron, a hithau wedi sefydlu gwasg gyhoeddi llyfrau i blant a phobl ifanc, sef Llyfrau Broga. Mae’n byw gyda’i theulu yng Nghaerdydd mewn tŷ llawn llyfrau.
留言