*Scroll down for English & comments*
Caredigrwydd yw'r peth prydferthaf oll...
Kindness is the prettiest thing of all...
Genre: iechyd a lles, dwyieithog / health & wellbeing, bilingual Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◉
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◉ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◎◎◎
Dyfarniad/verdict: ★★★★☆
Unwaith eto, mae gwasg Rily wedi dewis llyfr da i’w addasu i’r Gymraeg ar gyfer plant ifanc. Mae’r clawr – ac yn wir- gweddill y llyfr, yn byrlymu â lluniau lliwgar, hyfryd sy’n dod a bywyd gwyllt y jwngl yn fyw! Mae’r defnydd o liwiau yn anhygoel ac mae’r llyfr yn plesio’r llygaid ac yn sicr o apelio at blant ifanc.
Mae’r anifeiliaid yn ymgynnull ar gyfer Jambori (dathliad mawr) cyn iddi nosi, lle bydd un creadur yn cael ei goroni fel anifail mwyaf prydferth y jwngl. Wrth baratoi, mae’r anifeiliaid yn sôn am eu “diffygion” ac yn rhestru’r pethau maent yn anhapus gyda’u cyrff. Er enghraifft, mae’r sebra’n meddwl fod ei streipiau’n ddiflas, mae coesau’r aderyn yn rhy fyr ac mae’r hipo’n meddwl fod ei ben ôl yn rhy fawr! Mae’r anifeiliaid yn creu gwisgoedd lliwgar i guddio’r ‘amherffeithiadau ond mae storm enfawr yn dod ac yn sgubo’r gwisgoedd i ffwrdd ac yn gadael y jwngl mewn tywyllwch.
Mae’r pryf tân (firefly) yn dod i oleuo’r goedwig ac yn taflu ei oleuni dros yr anifeiliaid er mwyn dangos fod pob un yn brydferth fel ac y maen nhw – heb yr angen am wisgoedd i guddio dim.
Mae’r anifeiliaid i gyd yn penderfynu mai caredigrwydd y pryf bach oedd y peth tlysaf i gyd.
Mae neges y stori yn lyfli. Mae’n trafod pethau sydd wir yn gallu effeithio ar blant a phobl ifanc fel pryderu am edrychiad a hunan hyder. Yn enwedig yn yr ysgol, mae geiriau plant yn gallu brifo weithiau, ac felly mae’n bwysig iawn cael llyfr sy’n atgoffa fod:
A) Pawb yn brydferth - dim ots sut maen nhw’n edrych
B) Bod yn garedig ag eraill yw’r peth pwysicaf nid trio edrych yn dda.
Dwi wedi gwirioni gyda’r llyfr yma, ac mae’n sicr yn un y byddwn yn ei ddefnyddio yn y dosbarth, fel rhan o addysg bersonol a chymdeithasol. Mae’r llyfr yn ddathliad lliwgar o bopeth sy’n ein gwneud ni’n unigryw ac yn arbennig. Mae o’n cyfleu neges bwysig o garu eraill, ond yn bwysicach na hyn, i garu a derbyn eich hun.
Mae’r llyfr yn un dwyieithog, ond mae’r cyfieithiad Saesneg yn y cefn yn hytrach na’i fod ar y tudalennau. Syniad da dwi’n meddwl - mae’r tudalennau’n ddigon prysur fel maen nhw! Mae ‘na chydig bach o fydr ac odl i’r llyfr ac mae’n ail adrodd rhai patrymau sy’n cynnwys berfau ac ansoddeiriau .E.e. “Nid Fi!” ochneidioddyr hipo. “Mae fy mhen ôl i’n….rhy fawr!”
Darlleniad llafar o'r llyfr ar wefan BookTrust Cymru:
Publisher Rily has again chosen a cracking book to adapt into Welsh for young children. The cover – and indeed- the rest of the book, is bubbling with lovely, colourful paintings that bring the jungle's wildlife to life! The use of colours is incredible and the book is incredibly pleasing to the eye and is sure to appeal to young children.
The animals congregate for a jamboree (a great celebration) at dusk where one creature will be crowned as the most beautiful animal of all. In preparation, the animals reflect and begin listing their perceived ‘defects,’ imperfections and insecurities. For example, the zebra thinks his stripes are boring, the bird believes his legs are too short and the hippo thinks his bum is too big! The animals go about creating colourful costumes to hide their ‘imperfections’ but a huge storm comes from nowhere and blows the costumes away, leaving the jungle in darkness.
The humble firefly comes to light up the forest and casts it’s light over the animals in order to show that they are all beautiful – without the need for costumes to hide anything.
All the animals decide that the kindness of the fly was the prettiest thing of all.
The message contained within the story is wonderful. It discusses things that really can, and do affect children and young people as they grow up such as concern about one’s appearance and self-confidence. Children can be very nasty to each other sometimes and words can hurt, so it is very important to have a book that reminds us that:
A) Everyone is beautiful in their own way – regardless of looks.
B) being kind to others is the most important thing.
I am thrilled with this book, and it is certainly one that I will use in the classroom, as part of personal and social education. The book is a colourful celebration of everything that makes us unique and special. It sends out an important message about loving others, but more importantly, learning to love and accept oneself first.
The book is bilingual, but the English translation is in the back rather than on the pages. A good idea I think – the pages are busy enough as they are! There's some rhyme to the book and it repeats some patterns that contain verbs and adjectives.
Listen to the story here on Booktrust Wales:
Comments