♥ Llyfr y Mis i Blant: Chwefror 2022♥
(awgrym) oed darllen: 6+
(awgrym) oed diddordeb: dan 7
Darlunio: Emily Gravett
Adolygiad Ceri Parry, Mam i 4 o blant / Athrawes Gynradd (derbyn a bl.1)
Llyfr bendigedig wedi ei ysgrifennu yn wych gyda neges bwysig i'r darllenwyr. Cychwynna’r stori gyda’r hen ŵr yn egluro i'r aderyn bach du fod tristwch yn y byd. Mae gan yr aderyn bach du syniad ac fe aiff ymlaen i gyflwyno’r syniad i'r llwynog. Caiff y neges ei throsglwyddo o un anifail i'r llall, ac fe daw y darllenydd i gyfarfod pob math o anifeiliaid lliwgar ac amrywiol y byd wrth i'r anifeiliaid uno i rannu’r neges. Mae’r stori yn gorffen yn fendigedig gyda’r ymdeimlad o falchder ac undod wrth i bawb ganu fel un i rannu neges yr aderyn bach du.
Cyflwynais y stori yn ystod gwasanaeth i blant bach rhwng tair ac wyth oed. Roedd pawb yn gwrando yn astud, yn mwynhau y stori ac yn awyddus i ddyfalu beth oedd neges yr aderyn bach du. Mae’r llyfr yn llawn o ddarluniadau lliwgar a manwl sy’n ennyn diddordeb y plant yn ogystal a chyflwyno yr amrywiaeth o anifeiliaid sydd ar ein planed. Roedd y lluniau yn sbardun gwych ar gyfer trafodaeth ac yn ffordd fendigedig o gyflwyno rhai o’r anifeiliaid sydd yn anghyfarwydd i rai o’r plant. Gellir defnyddio y stori fel sbardun ar gyfer pob math o gyfleoedd dysgu o fewn yr ysgol gynradd.
Mae’r llyfr yma yn ein herio i ystyried ein planed anhygoel a sut i ofalu amdani. Mae’n gyfraniad bendigedig i ddosbarth er mwyn atgyfnerthu’r neges o ofalu am y byd.
Adolygiad Gwales - Hawys Roberts
Wyt ti yn caru byd natur? Wyt ti eisiau gwneud dy ran i wneud yn siŵr fod y byd yn lle gwell i fyw ynddo? Beth am wrando ar neges yr anifeiliaid yn y stori liwgar, fywiog hon?
Mae’r cyfan yn cychwyn gyda’r deryn du a’i gân fendigedig yn yr ardd. A beth yw ei neges? Mae’n canu cân o obaith.
Mae e eisiau codi calon a rhannu’r newyddion da i bob man. Er ein bod ni’n medru digalonni ar adegau, ac er bod straeon o anobaith am gyflwr ein byd yn aml yn ein gwneud ni’n drist, mae angen i ni godi ein calonnau, a dod at ein gilydd i wella pethau.
Mae nodau cân y deryn du yn gadael yr ardd ac yn cyrraedd i bob cornel o’r byd. Drwy gyfrwng y lluniau hardd byddwn yn cyfarfod ag anifeiliaid o bob cwr o'r byd – o sioncyn y gwair a’r llygoden fach leiaf yng nghornel y cae, i’r gorila mawr yn y fforestydd trofannol a’r camelod yn yr anialwch.
Mae’r crocodeil yn ei gors, yr eog a’r brithyll yn yr afonydd, a’r eryr ar y mynydd, i gyd yn gwrando ac yn cyffroi. Mae hyd yn oed yr eira’n toddi, a chân y deryn du yn mynd gyda’r nant o’r mynydd ac allan i’r môr. Mae gan bawb yr un neges – mae angen i ni ofalu am y blaned hyfryd hon.
Yn ôl yn yr ardd, mae’r deryn du yn fodlon. Ein cyfrifoldeb ni heddiw yw newid y sefyllfa, ac edrych ymlaen yn obeithiol at ddyfodol gwell. Yng ngeiriau’r deryn du ei hun, ‘Ein cân ni yw dy gân di, a dy gân di yw ein cân ni.’
A’r tro nesaf y sylwi di ar dderyn du yn eich gardd chi, beth am fynd ato am sgwrs? Efallai y clywi di e’n siarad gyda ti – yn canu cân o obaith ac o falchder yn y ddaear.
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Comments